SWYDDOG CODI ARIAN CORFFORAETHOL
DISGRIFIAD SWYDD
Lleoliad: Gwaith hybrid, gyda chyfleusterau swyddfa ar gael ym Mangor a ger yr Wyddgrug
Yn atebol i: Pennaeth Strategaeth a Gweithrediadau
PWRPAS CYFFREDINOL Y SWYDD
Cyfrifoldeb cyffredinol am berthynas Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru â busnesau, gan ganolbwyntio ar eu potensial i gyfrannu incwm anghyfyngedig fel sail i’n Strategaeth 2030 sefydliadol: Dod â Natur yn Ôl
PRIF GYFRIFOLDEBAU
Codi arian corfforaethol a rheoli perthnasoedd
· Cynllunio, cydlynu a gweithredu'r holl weithgareddau codi arian sy'n ymwneud â pherthnasoedd rhwng busnesau ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
· Gwneud cyfraniad sylweddol at bob agwedd nad yw'n ymwneud â chodi arian ar y perthnasoedd rhwng busnesau ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
· Nodi a sefydlu cyswllt gyda busnesau nad ydynt wedi cefnogi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru o'r blaen, gyda'r nod o gynhyrchu incwm drwy godi arian a arweinir gan staff; cymryd rhan yn nigwyddiadau ac ymgyrchoedd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru; nawdd corfforaethol, aelodaeth a rhoddion; a marchnata sy'n gysylltiedig ag achosion
· Rheoli perthnasoedd â chefnogwyr busnes presennol, gan sicrhau bod cefnogwyr yn cael cefnogaeth o ansawdd uchel – a sicrhau bod modd codi’r swm mwyaf posib o arian ochr yn ochr â'u hymgysylltu a chynyddu'r tebygolrwydd o gadw cefnogwyr neu gefnogaeth eto yn y dyfodol
· Nodi a sefydlu cyswllt sydd wedi dod i ben gyda chefnogwyr busnes, gyda'r nod o sicrhau addewid i gefnogi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
· Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer pob ymholiad gan ddarpar gefnogwyr busnes a chefnogwyr busnes presennol, ac ymateb yn briodol
· Rheoli pob agwedd ar gynllun aelodaeth corfforaethol presennol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a’i ddiweddaru i adlewyrchu addasrwydd at y diben yn y dyfodol
· Defnyddio meddalwedd CRM Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i gofnodi'n fanwl gywir yr holl wybodaeth sy'n ymwneud â rhagolygon corfforaethol a chefnogwyr
· Monitro'r holl incwm a dderbynnir gan fusnesau a sicrhau bod targedau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyrraedd
· Mynd ati’n rhagweithiol i nodi cyfleoedd i ddefnyddio gwirfoddolwyr corfforaethol i gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda ffocws ar ganlyniadau sy’n ymwneud â chodi arian a chadwraeth
· Sicrhau bod pob perthynas â busnesau’n cael ei hasesu gan ddefnyddio fframwaith diwydrwydd dyladwy, gydag adnoddau priodol yn eu lle ar gyfer gwneud penderfyniadau a rheoli risg.
Dyletswyddau cyffredinol
• Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau sy’n gysylltiedig â chodi arian corfforaethol yn y sector elusennol a mudiad yr Ymddiriedolaethau Natur, gan gynnwys drwy ddefnyddio rhwydweithiau cydweithwyr, cyrff masnach a'r wasg
• Cysylltu â thîm Marchnata a Chyfathrebu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i sicrhau bod yr holl gyfathrebu sy’n ymwneud â busnes yn gyson â chanllawiau brand a negeseuon
• Cysylltu â staff perthnasol mewn Ymddiriedolaethau Natur eraill i helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer traws-weithio lle bo hynny'n berthnasol
• Arwain ar gyfathrebu ac addysg, yn fewnol ac yn allanol, ar bwysigrwydd perthnasoedd busnes i’r sefydliad
• Siarad ar ran Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn digwyddiadau / cyflwyniadau yn ôl yr angen
• Gweithio'n agos gydag aelodau eraill o staff i sicrhau bod perthnasoedd corfforaethol yn gysylltiedig yn agos â meysydd eraill yr elusen.
Er mwyn i'r sefydliad weithio'n effeithiol efallai y bydd gofyn i chi gynorthwyo gyda meysydd gwaith eraill. Dylech felly fod yn barod i ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n briodol i'r swydd, ac unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n ofynnol.
Mae’r holl staff yn llysgenhadon i’r sefydliad yn fewnol ac yn allanol a disgwylir iddynt ymddwyn yn broffesiynol bob amser. Mae’n ofynnol iddynt gadw at reolau, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol fel y nodir yn y llawlyfr staff, mabwysiadu arferion gwaith amgylcheddol gyfeillgar, gosod a chynnal safonau personol uchel o effeithlonrwydd a gofal cwsmeriaid a meithrin diwylliant o ‘allu gwneud’ yn seiliedig ar berchnogaeth, blaengaredd, gwaith tîm a chyfnewid gwybodaeth.