RHEOLWR CYFRANNU UNIGOL
DISGRIFIAD SWYDD
Lleoliad: Gwaith hybrid, gyda chyfleusterau swyddfa ar gael ym Mangor a ger yr Wyddgrug
Yn atebol i: Pennaeth Strategaeth a Gweithrediadau
PWRPAS CYFFREDINOL Y SWYDD
Cyfrifoldeb cyffredinol am godi arian cysylltiedig ag incwm anghyfyngedig i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan unigolion yn ôl yr angen fel sail i’n Strategaeth 2030 sefydliadol: Dod â Natur yn Ôl
PRIF GYFRIFOLDEBAU
Goruchwyliaeth strategol a rheoli cyllideb
· Gweithio gyda’r Pennaeth Strategaeth a Gweithrediadau i weithredu amcanion penodol o strategaeth codi arian bresennol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
· Datblygu achosion sefydliadol ar gyfer cefnogaeth i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a chreu ymgyrchoedd llwyddiannus o'i chwmpas
· Dyfeisio a rheoli pob agwedd ar gyllidebau unigol yn ymwneud â chyfrannu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gan gynnwys ail-ragweld a chynllunio wrth gefn, rhagolygon incwm a gwariant, a thracio perfformiad ariannol
· Arwain ar gyfathrebu ac addysg, yn fewnol ac yn allanol, ar bwysigrwydd codi arian gan unigolion ar gyfer y sefydliad
· Siarad ar ran Ymddiriedolaethau Natur Gogledd Cymru mewn digwyddiadau / cyflwyniadau yn ôl yr angen
· Gweithio'n agos gydag aelodau eraill o staff i sicrhau bod cynhyrchion a mentrau sy'n ymwneud â chyfrannu unigol wedi'u cysylltu'n agos â meysydd eraill yr elusen.
Rheolaeth llinell y tîm codi arian
• Rheolaeth llinell ar gyfer aelodau penodol o dîm codi arian Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n gyfrifol am aelodaeth, cymynroddion a rhoddwyr mawr
• Arwain, rheoli ac ysbrydoli holl staff Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i greu diwylliant cadarnhaol ac arloesol, a diwylliant o ‘allu gwneud’, yn gysylltiedig â chyfrannu gan unigolion, gan annog gwaith traws-dîm a thraws-sefydliad.
Cyfrifoldebau codi arian penodol
• Datblygu a gweithredu holl weithgareddau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy’n ymwneud ag apeliadau codi arian untro, uwchraddio aelodaeth a rhoddion cyffredinol
• Meithrin a rheoli perthnasoedd buddiol a chynhyrchiol ag asiantaethau codi arian a marchnata trydydd parti yn ôl yr angen i gyflawni'r uchod
• Datblygu fframwaith datblygu cyfranwyr ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn ei chyfanrwydd; sicrhau bod siwrneiau effeithiol, sy’n canolbwyntio ar gyfranwyr, yn eu lle drwy fanteisio i’r eithaf ar botensial meddalwedd Rheoli Perthnasoedd â Chwsmeriaid ac adnoddau eraill
• Gweithredu fel y ‘meddwl arweiniol’ sy’n goruchwylio cynllun aelodaeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’i rôl o fewn fframwaith datblygu cyfranwyr ehangach
• Sicrhau bod gofal arfer gorau yn ei le i gefnogwyr ar gyfer rheoli'r ymateb i holl weithgareddau codi arian Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy'n ymwneud ag unigolion.
Dyletswyddau eraill
· Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau codi arian yn y sector elusennol, yn enwedig drwy ddefnyddio rhwydweithiau cydweithwyr, cyrff masnach a'r wasg
· Cysylltu â thîm Marchnata a Chyfathrebu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i sicrhau bod yr holl gyfathrebu sy’n ymwneud â chefnogwyr yn gyson â chanllawiau brand a negeseuon
· Cysylltu â thimau codi arian mewn Ymddiriedolaethau Natur eraill i helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer traws-weithio lle bo hynny'n berthnasol
· Cefnogi Swyddog Data Cefnogwyr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cydymffurfio ag arfer da bob amser.
Er mwyn i'r sefydliad weithio'n effeithiol efallai y bydd gofyn i chi gynorthwyo gyda meysydd gwaith eraill. Dylech felly fod yn barod i ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n briodol i'r swydd, ac unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n ofynnol.
Mae’r holl staff yn llysgenhadon i’r sefydliad yn fewnol ac yn allanol a disgwylir iddynt ymddwyn yn broffesiynol bob amser. Mae’n ofynnol iddynt gadw at reolau, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol fel y nodir yn y llawlyfr staff, mabwysiadu arferion gwaith amgylcheddol gyfeillgar, gosod a chynnal safonau personol uchel o effeithlonrwydd a gofal cwsmeriaid a meithrin diwylliant o ‘allu gwneud’ yn seiliedig ar berchnogaeth, blaengaredd, gwaith tîm a chyfnewid gwybodaeth.