Teitl y Swydd: Swyddog Grantiau
Yn adrodd i: Rheolwr Grantiau
Man Gwaith: Prif Swyddfa YNGC (Bangor) a / neu Swyddfa’r Dwyrain YNGC (yr Wyddgrug) a / neu weithio gartref
Oriau Gwaith: Llawn amser – 35 / wythnos
Ystod cyflog: £25,000 - £29,000
Prif bwrpas y swydd:
Cefnogi pob agwedd ar godi arian sy’n gysylltiedig â grantiau yn YNGC, gan gynnwys datblygu prosiectau ac arwain ar geisiadau grant unigol (yn unol â’r hyn a neilltuir ac a gefnogir gan Reolwr Grantiau YNGC).
Prif Gyfrifoldebau’r Rôl:
· Datblygu prosiectau:
o Trafodaeth gydag Arweinwyr YNGC i nodi'r prosiectau mwyaf addas i'w cyllido gan grant, i'w datblygu
o Cefnogi'r Rheolwr Grantiau i hwyluso datblygiad partneriaeth gydag Ymddiriedolaethau Natur eraill a phartneriaid allanol
o Cefnogi’r Rheolwr Grantiau i ddatblygu sylfaen dystiolaeth gyfredol i gefnogi datblygiad prosiectau a cheisiadau am grantiau, gan gynnwys astudiaethau achos, tystebau ac ymgyngoriadau cymunedol
o Datblygu a rheoli perthnasoedd gyda rhanddeiliaid ariannu newydd a phresennol, cynrychioli YNGC mewn ymgyngoriadau, gweithdai a digwyddiadau i sicrhau’r canlyniadau gorau
o Cefnogi ac uwchsgilio staff eraill i ddatblygu syniadau prosiect yn gynigion llwyddianus.
· Ceisiadau am grant:
o Ymchwilio, nodi a gwerthuso’n barhaus ffynonellau newydd o incwm prosiect (cenedlaethol, rhanbarthol a lleol) gan ddefnyddio adnoddau fel mewnrwyd yr Ymddiriedolaethau Natur, ein cronfa ddata Grantfinder a gwasanaethau tanysgrifio am ddim eraill (e.e. WCVA), gan sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am ffrydiau ariannu a thueddiadau sy’n newid
o Defnyddio pecynnau adnoddau datblygu prosiectau, gan gynnwys Adennill Costau Llawn a chyfrifianellau cyflog i sicrhau cyllidebau prosiect manwl gywir
o Ysgrifennu ceisiadau ar gyfer ystod eang o gyllidwyr grant, gan gynnwys cyrff statudol; dosbarthwyr y Loteri Genedlaethol; ac ymddiriedolaethau a sefydliadau
o Cefnogi staff eraill i ysgrifennu ceisiadau llwyddiannus am gyllid, lle cytunir ar hynny yn benodol
o Cefnogi Rheolwr Grantiau YNGC i gynnal cronfeydd data codi arian grant effeithiol i dracio cynnydd, a pharatoi adroddiadau / briffiau cynnydd yn ôl y gofyn.
· Adrodd ar brosiectau:
o Cefnogi rheolwyr prosiect unigol gydag adrodd ar brosiectau i gyllidwyr
o Pan gytunir ar hynny gyda Rheolwr Grantiau YNGC, cefnogi rheolwyr prosiect unigol fel ail bwynt cyswllt ar gyfer cyllidwyr ar ôl y dyfarniad, a sicrhau yn gyffredinol bod perthnasoedd rhagorol yn cael eu cynnal gyda chyllidwyr
o Gweithio gyda rheolwyr prosiect unigol i sicrhau bod cefnogaeth cyllidwyr grant a phartneriaid yn cael ei chydnabod yn briodol (e.e. ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddiadau print)
o Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni ddisgwylir i ddeiliad y swydd reoli prosiectau unigol, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
· Cyfrifoldebau cyffredinol:
o Cyflawni’r holl ddyletswyddau o ran deddfwriaeth berthnasol, fframweithiau a safonau rheoleiddio a gweithdrefnau mewnol YNGC, gan gynnwys polisïau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, cyfleoedd cyfartal, codi arian, diogelu a diogelu data.
Nid yw’r rhestr uchod yn hollgynhwysfawr a bydd gofyn i ddeiliad y swydd, o bryd i’w gilydd, gyflawni dyletswyddau eraill sy’n gyson â diben y swydd.
Efallai y bydd y swydd hon yn gofyn am weithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Mae YNGC yn gweithredu system TOIL.